Y Gynhadledd Gyntaf ar Amrywiaeth Ieithyddol yng Nghymru

[Hynek Janousek, newly-graduated in Celtic Studies, recounts the successful international conference on ‘language diversity in Wales’ that he helped organise at the National Library of Wales.]

Cenedl heb iaith, cenedl heb galon? Os gwir y ddihareb hon, gellid awgrymu bod y gynhadledd Amrywiaeth Ieithyddol yng Nghymru/Language Diversity in Wales, a gynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 18–19 Gorffennaf eleni, wedi dangos bod gan y wlad hon sawl calon sy’n curo’n nerthol y tu mewn a’r tu allan i’w ffiniau.

Fe arferwyd dwy brif iaith Cymru o fewn y tîm trefnu ac ymhlith y cyfranwyr a gynhwysai academyddion o sawl gwlad ar gyfandiroedd Ewrop a Gogledd America. Fe amyneiliwyd rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn y cyflwyniadau ac yn y trafodaethau a’u dilynodd (beth bynnag oedd ieithoedd gwreiddiol y papurau). Ymhellach, cafodd y confensiwn dwyieithog ei hun ei archwilio ar lefel sosio-ieithyddol a chymdeithasegol, ac fe dueddai y cyfraniadau oll i ddangos bod tirwedd ieithyddol Cymru yn llawer mwy cymhleth na deuoliaeth draddodiadol dau dafod y Ddraig Goch. Ac wrth gwrs, fe glywid ymysg y cyfranwyr ieithoedd na fyddant yn cael eu cysylltu â Chymru fel arfer megis Rwsieg, Iseldireg, Almaeneg, Ffinneg, Tsieceg, Gwyddeleg. Bu sôn hefyd am ieithoedd lleiafrifoedd Cymreig gan gynnwys Hindi a Phwyleg.
Roedd y gynhadledd yn gyfle i sylweddoli, ymysg pethau eraill, fod gan Gymru ystod eang o hunaniaethau sy’n gwrthdaro ac yn cydblethu â’i gilydd mewn amryw ffyrdd.

‘Amrywiaeth mewn undod’ felly oedd y ddolen gyswllt rhwng y gwahanol gyfraniadau o’r cychwyn cyntaf, fel yr awgrymodd teitl y ddarlith agoriadol gan un o’r siaradwyr gwadd, Elin Haf Gruffydd Jones. Amrywiaeth ieithyddol a disgyblaethol oedd pwnc yn ogystal â chyfrwng y digwyddiad rhyngwladol hwn a ddaeth â tho newydd o ysgolheigion blaengar ynghyd o feysydd amryfal megis ieithyddiaeth, beirniadaeth lenyddol, ffonoleg a seineg, astudiaethau cyfieithu a chyfryngau, ieitheg hanesyddol, tafodieitheg, technoleg wybodaeth a llawer eraill.

Fe fframiwyd sesiynau’r ail ddiwrnod gan gyflwyniadau cynhwysfawr gan y ddau siaradwr gwadd arall. Bu Markku Filppula, un o’r prif arbenigwyr ar dafodieithoedd Saesneg a chanddynt gefndiroedd Celtaidd, yn rhoi llith gyrhaeddgar ynghylch deinameg hanesyddol a daearyddol rhwng Saesneg Cymru a’r Gymraeg, gan wneud cymariaethau dadlennol â hanes ieithyddol Iwerddon. Ffocws manwl ac enghreifftiau llafar difyr o amrywiaeth gystrawennol yng Nghymraeg y Gogledd oedd prif nodweddion y ddarlith gan David Willis, un o awduron y prosiect arloesol Atlas Cystrawen Tafodieithoedd y Gymraeg, ar y cyd â Bob Borsley a Maggie Tallerman (roedd yr olaf hefyd yn bresennol).

Nid yw’n bosibl crynhoi’r cyfoeth o ddysg ac ymchwil a mewnwelediadau ffres a gyfryngwyd gan y gynhadledd… A ydych erioed wedi synfyfyrio uwchben gwahanol acenion Saesneg Cymru a’r ffordd y mae pobl yn teimlo yn eu cylch? Mae’n debyg bod gennych acen ‘sexy’ os yw eich Saesneg yn digwydd bod yn Gymreigaidd. A ydych wedi ystyried pwy sy’n gyfarwydd â chyfoeth llenyddiaeth fodern y Gymraeg y tu allan i Gymru? Byddech wedi cael eich synnu, siŵr o fod, gan y gweithgarwch brwd sydd i’w weld mewn cyfieithu ac astudiaethau cyfieithu rhwng Cymraeg a Phwyleg ar hyn o bryd. A fyddwch weithiau yn cnoi cil dros ddefnydd tafodiaith a’i pherthynas â Chymraeg Llenyddol mewn ffuglen Gymraeg? Neu i ba raddau y mae modd cyffredinoli ynghylch nodweddion a ffiniau daearyddol tafodieitheodd y Gymraeg?

Yn sicr, ni chynigiwyd atebion terfynol i’r un o’r cwestiynau hyn, ond fe amlygwyd rhai ohonynt am y tro cyntaf mewn cyd-destun rhyngddisgyblaethol a fwriodd oleuni newydd arnynt a pheri i ysgolorion o feysydd gwahanol iawn gyd-ysyried a chyd-ymholi. Ar ben hynny, roedd Gweithdy’r Gynhadledd ar gorpora digidol ac adnabod lleferydd gan Sarah Cooper a Marieke Meelen yn gyfle i’r myfyrwyr ymchwil sydd ar fin camu i mewn i fyd gwaith ddysgu ac ystyried gwahanol lwybrau academaidd a gyrfaol.

O ddyfynnu dim ond un o’r ymatebion brwdfrydig yn y cyfryngau cymdeithasol, roedd y fenter hon yn ‘llwyddiant ysgubol’ , yn fan cychwyn i amryw drafodaethau yn ogystal â phrosiectau newydd sbon. Er mai o’r academia y daeth y rhan fwyaf o’r gynulleidfa bresennol, fe ddenwyd cryn dipyn o gyfranwyr o’r cyhoedd ehangach ac roedd yn amlwg bod pwnc y gynhadledd o ddiddordeb cyffredinol. Fe wnaeth yr ‘undod mewn amrywiaeth’ neu’r ‘amrywiaeth mewn undod’ ysgogi trafodaeth fywiog a digymrodedd o ystyrlon ynghylch gwahanol agweddau ar yr ecosystem ddiwylliannol rydym yn ei galw yn Gymru/Wales. Hir oes i’r fenter a wnaeth y drafodaeth hon yn bosibl!

Cynhaliwyd y digwyddiad dan nawdd Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Hynek Janousek, BA Astudiaethau Celtaidd (2014)

Llwyfannu ymchwil Lowri Morgans – ‘Ectoplasm’ – Staging Lowri Morgans’s research

[Llanelli Eisteddfod 2014 promises to be extra special for Lowri Morgans who gained her PhD at the Department of Welsh Aberystwyth this summer… This post tells of the way in which Lowri’s research on body language and gesture in Medieval Welsh literature has impacted on the work of Jon Gower (author and broadcaster) and Eddie Ladd (performer): ‘Ectoplasm’ will be performed during the Eisteddfod at Tinopolis’s Theatre, 20.00, 7 & 8 August.]

Bydd Eisteddfod Llanelli 2014 yn un arbennig iawn i Lowri Morgans…

Enillodd Lowri radd PhD o Adran Y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth eleni. Mae hi bellach yn darlithio yn y Gymraeg i fyfyrwyr Lefel A yng Ngholeg Sir Gâr, Llanelli. Pwnc ei hymchwil oedd ‘Ymdriniaeth ag ystum ac ymddygiad yn y Gymru ganoloesol c.700-c.1500’. Roedd Lowri yn ymchwilio i enghreifftiau o iaith y corff yn y chwedlau Cymraeg a barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, gan edrych ar hanes y gusan, cofleidio, ystumiau dwylo ac ystumiau wynebol.
Ym mis Mai eleni darlithiodd ar y pwnc yn Fforwm Beirdd yr Uchelwyr, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru: ‘Iaith y Corff yng Ngwaith Beirdd yr Uchelwyr’. Roedd cryn ddiddordeb yn y ddarlith a gofynnwyd i Lowri drafod ei gwaith ar raglen Dei Tomos ar Radio Cymru.

Clywyd yr eitem gan yr awdur a’r darlledwr Jon Gower, ac roedd am ddefnyddio gwaith Lowri ar gyfer rhan o’r sioe theatr ‘Ectoplasm’:

Tyfodd y sioe ‘Ectoplasm’ allan o ddymuniad ar ran Eddie Ladd a minnau i wneud mwy o waith creadigol ar gyfer y theatr yn Gymraeg, a hynny’n dilyn mwynhau nifer o weithiau Theatr Genedlaethol llynedd. O’n safbwynt innau roeddwn am gael sgwrs eto gyda fy nhad-cu, Thomas John Gower bu fawr ddeugain mlynedd yn ôl ac felly rydym am ei atgyfodi yn y sioe, gan ddefnyddio sgiliau pypeda elfennol iawn. Roeddwn hefyd yn chwilio am ddeunydd byddai’n sbarduno dychymyg Eddie pan glywais Lowri Morgans yn siarad ar raglen Dei Tomos ar Radio Cymru ynglŷn â’i gwaith ymchwil ar ieithwedd y corff yng ngwaith beirdd megis Dafydd ap Gwilym. Swniodd hyn yn ffynhonnell berffaith ac wedi darllen darlith Lowri ar y testun roedd yn benderfyniad hawdd i ‘w ddefnyddio fel sail i ran o’r sioe. (Jon Gower)

Bydd y sioe theatr ‘Ectoplasm’ yn cael ei pherfformio yn Stiwdio Tinopolis nos Iau (7 Awst) a nos Wener (8 Awst) am 20.00. Tocynnau £10 (a gostyngiadau £8). Croeso cynnes i bawb!

Lowri

 
Lowri Morgans, PhD, BA Cymraeg