Marciau Llawn i Anna Powys

[Congratulations to first-year student Anna Powys who was amongst WJEC A-Level candidates who were recognised for their outstanding performance in 2013.]
Llongyfarchiadau i Anna Powys am dderbyn gwobr gan CBAC am y marciau uchaf ar y cymhwyster Lefel A Cymraeg.
Dywedodd “Roedd derbyn y wobr yn fraint annisgwyl gan nad oeddwn yn ymwybodol fod y fath wobrau yn bodoli. Dyma’r tro cyntaf i ddisgybl o Ysgol Plasmawr dderbyn gwobr fel hon.” Llwyddodd Anna i ennill marciau llawn yn yr adran lafar ac yn y traethawd a oedd yn ymwneud â barddoniaeth y Cynfeirdd.

Ychydig o ddiwrnodau cyn y Nadolig, fe aeth Anna i’r seremoni wobrwyo yn adeilad CBAC yng Nghaerdydd. “Roedd tua 30 o ddisgyblion yno, ynghyd â’u rhieni a’u hathrawon, sef y rhai a ddaeth i’r brig ym mhob un o’r pynciau sy’n cael eu harholi gan CBAC. Synnais o weld fod cymaint o’r disgyblion yn mynychu ysgolion a cholegau tu hwnt i Glawdd Offa ac roedd yn ddiddorol bod yng nghwmni cymaint o unigolion a oedd wedi ennill marciau llawn yn eu harholiadau amrywiol.”

Llun Anna Powys

Gwenan Davies, BA, [Myfyrwraig Raddedig Dan Hyfforddiant Adran y Gymraeg a Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg]

O Benygroes i Bantycelyn

[In this post, first-year student Llio Elenid talks about her journey from Penygroes to Pantycelyn Hall, and of the modules she has enjoyed studying so far on her degree course in Welsh and History.]

Aber, Bangor neu Gaerdydd? Dyna oedd y frwydr danbaid i mi gwta flwyddyn yn ôl wrth geisio penderfynu i ba gyfeiriad oedd y Ffordyn am fentro ddiwedd mis Medi. Ac wedi bron i saith mis o fyw ac astudio yma yn Aberystwyth, mae hi’n amlwg imi fy mod wedi gwneud y penderfyniad cywir. Mae hi nid yn unig yn dref ddifyr ar lan-y-môr â chanddi atyniadau di-ri, ond mae fy nghyd-fyfyrwyr yn wych, y darlithoedd yn ddiddorol a’r darlithwyr yn hynod o ysbrydoledig. Yn wir, i mi, yr unig beth sydd ar goll yn Aberystwyth yw mynyddoedd.

Fel myfyrwraig yn ei blwyddyn gyntaf sy’n astudio gradd gyfun Cymraeg a Hanes, mae cael astudio mewn tref mor Gymreig a hanesyddol yn brofiad hynod ddymunol, a’r mwynhad hwnnw’n ychwanegu at ddifyrrwch y darlithoedd. Diolch i athrylith y darlithwyr, yr wyf eisoes wedi llwyr ymgolli yng nghywyddau godidog Dafydd Nanmor a chanu gofyn a diolch Ieuan Du’r Bilwg; rwyf wedi cael fy hudo gan chwedloniaeth Sieffre o Fynwy a chanu brud Iolo Goch; ac rwyf wedi mynd o dan groen emynau William Williams ac arwyddocâd Daniel Owen i’r nofel Gymraeg. Mae’r gwaith ar y modiwl ‘Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar’ yn sicrhau bod ein hiaith cystal ag iaith unrhyw ysgolhaig, ac mae darlithoedd y modiwl ‘Cymraeg Ddoe a Heddiw’, sy’n ymdrin â thafodieithoedd lliwgar Cymru, yn hynod ddefnyddiol ar goridorau Pantycelyn!

Fy ngwendid mwyaf fel myfyrwraig yn yr Adran Gymraeg yw bod y radd yn esgus perffaith i wario ar lyfrau o bob lliw a llun. Rwy’n siŵr fy mod yn cadw Siop y Pethe a Siop Inc yn hapus iawn, heb sôn am ddŵad o hyd i drysorau ail-law yn siop Llyfrau Ystwyth. Rwyf ar bigau’r drain hefyd o eisiau cyfle i ymchwilio ymhellach i’r cyfoeth cenedlaethol sydd ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Rhaid imi hefyd ychwanegu mai braint oedd cael mynychu darlithoedd yn yr Hen Goleg, er mai dim ond am dymor yr oeddwn yno. Yr oedd hi’n brofiad rhagorol cael teimlo fel petawn yn camu yn ôl i oes ramantaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg bob wythnos, gan fethu â choelio fy mod yn eistedd ac yn astudio yn yr union le â rhai o gewri’r gorffennol.

Sicrha Adran y Gymraeg ac Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) fod yr ymdeimlad cryf hynny o Gymreictod a chymuned Gymraeg sydd wedi bod yn rhan annatod o’m bywyd a’m haddysg yn Nyffryn Nantlle yn parhau yma yn Aberystwyth, ac rwyf yn hynod falch am hynny.

Er hynny, mae Aberystwyth yn newid byd o Benygroes, ond mae’r dref hon ger y lli yn sicr wedi creu argraff dda arnaf. Mi ydwyf yn ysu i gael fy nghyfareddu’n llwyr gan waith yr ail dymor, a chael rhagor o bleser yn gwerthfawrogi barddoniaeth a rhyddiaith ein cenedl, yn enwedig fy arwyr o Ddyffryn Nantlle, sef y ddau gefnder T.H.Parry-Williams ac R.Williams Parry! A phwy a ŵyr, efallai fy mod i ar hyn o bryd yn astudio gyda rhai a fydd ymhlith y genhedlaeth nesaf o feirdd a llenorion disglair Cymru – ni fuasai hynny yn fy synnu o gwbl!

Llun Llio

Llio Elenid Owen, Rhan I, Cymraeg a Hanes