Dathlu carreg filltir – RSPB – Celebrating a milestone

[The RSPB celebrates its 125th anniversary this year. Howard Williams, Phd candidate, gives us an insight into the uses of birds in Welsh poetry of the Middle Ages: from the gentlemanly pursuit of hawking to preparing birds for the pot. He also explains the metaphorical uses of birds, either to flatter noble patrons (eagles, peacocks) and their wives (gulls), or as trustworthy love messengers.]

Fel mae’r RSPB wedi cyfaddef o dro i dro, nid gwarchod adar yn uniongyrchol yw eu prif rôl, er gwaethaf eu henw, ond gwarchod cynefinoedd lle gall adar ffynnu. Ac felly gyda theimladau cymysg bydden nhw’n edrych ar Gymru’r Oesoedd Canol: fe fydden nhw’n cymeradwyo’r dirwedd amrywiol a diffyg ffermio dwys ond yn dychryn wrth sylweddoli bod pawb bron yn arfer ymateb i aderyn prin trwy geisio ei fwyta. Ond, pa resymau bynnag oedd ganddynt, o leiaf roedd pobl y cyfnod yn cymryd cryn dipyn o ddiddordeb mewn adar. Roedd eu barddoniaeth yn ddrych i hynny ac yn rhyfeddol o amrywiol: tua thrigain o rywogaethau sy’n hedfan trwy’r cerddi. Dyma ychydig o esiamplau i gynnig blas bychan ar yr arlwy.
Un o ddiddordebau mawr y boneddigion, a oedd yn gyfrifol am gynnal y beirdd proffesiynol, oedd heboca ac, yn ei sgil, gyfnewid adar hela â’i gilydd. Achubai’r beirdd ar y cyfle i lunio cerddi yn gofyn i un uchelwr am aderyn fel anrheg (‘gosawg’ neu hebog tramor fel arfer) dros uchelwr arall. Yn ogystal â moli’r uchelwyr (a gobeithio cael dau ddogn o nawdd am un gerdd) mae’r beirdd yn cynnwys disgrifiadau manwl a dychmygus o’r gweilch hyn. Cynhwysir hefyd restrau go ffansïol o’r prae y byddai’r aderyn yn arfer ei ddal megis adar y bwn, crehyrod a garanod (cranes!) – a phob un ar eu ffordd i’r pot. Mae cerddi tebyg i ofyn am elyrch a pheunod wedi goroesi ac ynddynt, ar ôl cyfleu’n grefftus harddwch ac urddas yr aderyn, mae ambell i fardd yn mentro awgrymu rysáit bach a’r math gorau o win i’w hebrwng.
Byddai sawl math o aderyn yn cael eu hanfon hefyd at ferched fel negeswyr serch, megis gwylan ac ehedydd Dafydd ap Gwilym. Yn ddiweddarach, fe’u gyrrid at noddwyr i’w seboni a hyd yn oed at gyfeillion i dynnu eu coesau. Personoli adar oedd y fath ganu wrth gwrs ond ar ôl llyncu’r rhagdybiaeth ffantasïol hon gallwn weld yn aml ryw bwyslais ar ymarferoldeb, a hynny wrth ddewis aderyn sy’n gymwys i’r dasg sy’n ei wynebu, rhoi cyfeiriadau iddo a’i rybuddio rhag cael ei ddal mewn un ffordd neu’i gilydd gan helwyr.
Mae adar yn cael eu defnyddio’n aml gan y beirdd fel trosiad. Yn wir, anodd dod o hyn i gerdd o fawl neu ddychan heb gyfeiriad o’r fath. Nid yw llawer o’r trosiadau yn peri syndod, megis galw noddwr yn eryr a galw canwr (neu fardd) yn eos, ond mae sawl un yn fwy annisgwyl. Roedd tebygu rhywun i’r aderyn, iconaidd bellach, sy’n hedfan yn osgeiddig uwch tir Cymru, sef y barcud coch, yn fodd o’i sarhau, yn enwedig y newydd-ddyfodiad a oedd yn ceisio ymuno â rengoedd y boneddigion (er bod y beirdd yn ddigon parod i ffugio ach iddo mewn byr o dro). Ffordd o ganmol uchelwr, heb arlliw o awgrym ei fod yn ffroenuchel neu’n narsisaidd, oedd ei alw’n baun, a gwylan oedd ei wraig heb ensynio ei bod hithau’n drachwantus neu’n haerllug.
Adloniant poblogaidd oedd barddoniaeth yn yr Oesoedd Canol a byddai’r RSPB yn cenfigennu at faint o sylw a gafodd adar ynddi.

Howard Williams, ymgeisydd PhD sydd wrthi ar hyn o bryd yn gorffen traethawd ar adar yng ngwaith y cywyddwyr.

Trefnu’r Noson Llên a Chân: profiadau myfyrwyr Cymraeg Proffesiynol

[Two of the department’s Professional Welsh students reflect on their experiences organising an evening of literary and musical entertainment. It was a very successful event, and the skills gained will be of great help as they approach the next challenges this term!]
Llun Cymraeg Proffesiynol
Ar ddechrau ein tymor cyntaf yma fel myfyrwyr yn Aberystwyth cafodd ein dosbarth Cymraeg Proffesiynol y dasg o drefnu noson lenyddol. Roedd yn sicr yn her i bawb gan nad oedd gan yr un ohonom brofiad o drefnu noson o’r fath.

Y peth cyntaf a benderfynwyd oedd pa fath o noson roeddem ei heisiau, a’r teimlad cyffredinol gan bawb oedd ein bod eisiau trefnu noson a fyddai’n apelio at fyfyrwyr yn ogystal â’r cyhoedd. Penderfynwyd felly gael eitemau cerddorol yn ogystal ag eitemau llenyddol, a dyma sut y cawsom y syniad o drefnu noson llên a chân.

Ar ôl cael cyfranwyr a phenderfynu ar amser a lleoliad roeddem yn gweld pethau yn dod at ei gilydd yn reit daclus. Bu’n rhaid felly ddefnyddio sgiliau cyfathrebu er mwyn holi a fyddai siaradwyr gwadd yn fodlon cyfrannu, ac hefyd bu’n rhaid cydweithio a chyd-dynnu er mwyn cytuno ar drefniadau ar gyfer y noson. Roedd yn rhaid cael ychydig o gyhoeddusrwydd i’r noson ac fe wnaethom ni hynny trwy Facebook, gwefan Adran y Gymraeg a thrwy roi posteri o amgylch tref Aberystwyth. Yr unig beth i’w wneud wedyn oedd disgwyl am y noson ei hun!

Roedd pawb yn teimlo’n nerfus iawn cyn y noson ond fe aeth pob dim yn berffaith heb yr un broblem. Fe holwyd Bet Jones, enillwraig gwobr goffa Daniel Owen, gennym ni’r myfyrwyr am ei phrofiad o ysgrifennu ei nofel, Craciau, yn ogystal â rhai o’i syniadau am themâu a welir yn y nofel sydd yn berthnasol heddiw. Holwyd Llion Jones am ei gyfrol newydd, Trydar Mewn Trawiadau, sef casgliad o’i linellau a chwpledi o gynghanedd ar ‘Twitter’ ac hefyd am ei olwg ar farddoniaeth yn yr unfed ganrif ar hugain. Cawsom gyfle yma i ddatblygu sgiliau cyfathrebu unwaith eto, yn ogystal â chyfle i ddatblygu ein gallu i siarad yn gyhoeddus. Daeth Gwilym Bowen Rhys a Catrin Herbert hefyd i’n diddori â dwy gân yr un, ac fe atgyfododd Gwilym hen draddodiad Cymreig o ‘ganu pastwn’ – canu, tra’n cnocio pastwn ar y llawr i gadw curiad, sef rhywbeth a wnaed gan feirdd na fedrent fforddio offeryn. Roedd y cyfweliadau gyda Bet a Llion yn ddiddorol tu hwnt, roedd y perfformiadau gan Gwilym a Catrin yn swynol iawn, ac roedd perfformaid Gwilym yn sicr yn wreiddiol!

Cynhaliwyd cystadleuaeth gennym yn unol â’r noson. Rhoddwyd tasg i’r ymgeiswyr o lunio naill ai gerdd drydar; cerdd heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol, neu ddarn o lên meicro heb fod dros 200 gair. Yn wir, daeth dau i’r brig dan feirniadaeth Dr Huw Meirion Edwards a Dr Mihangel Morgan i ennill tocyn llyfr gwerth £20 punt yr un. Roedd safon y gwaith yn fwy na boddhaol, ond roedd gwaith y ddau lenor buddugol yn llawn haeddiannol o’r gwobrau, a bydd y darnau yn ymddangos yn rhifyn nesafcylchgrawn Adran y Gymraeg, Y Ddraig. I gloi’r noson darllenodd Endaf Griffiths, sydd yn fyfyriwr yn yr ail flwyddyn, dameidiau o’i gerddi i’n diddanu cyn i ni gael paned a sgwrs.

Teimlwn yn ffodus iawn ein bod wedi cael bod yn rhan o’r noson; roedd yn sicr yn brofiad unigryw a dysgasom lawer o’i herwydd. Bydd y sgiliau a ddefnyddiasom o fudd mawr inni wrth fynd ati i olygu cylchgrawn llenyddol Y Ddraig y tymor hwn. Bydd angen sgiliau cyfathrebu er mwyn hel nawdd, a bydd cydweithio’n allweddol er mwyn cytuno ar gynnwys y cylchgrawn ac wrth ei olygu. Hoffem ddiolch ar ran y dosbarth i Dr Rhianedd Jewell ac i Dr Bleddyn Owen Huws am eu holl gymorth trwy gydol y dasg ac am ein helpu i drefnu noson lwyddiannus a llawn hwyl.

Diolch i Jacob Ellis am y llun.

Mared Jones a Rhodri Siôn, Rhan I, Cymraeg Proffesiynol

Swydd ddelfrydol cyn-fyfyriwr – Former students’ ideal job

[In this Welsh-language post, Ffion Mair Parrington explains why she chose to study at Aberystwyth. She also recounts the modules she most enjoyed, including ‘Cymraeg yn y Gweithle’ (Welsh in the Workplace) which led her to her ideal job as a professional translator.]

Mae’n rhyfedd meddwl yn ôl i’r union ddiwrnod pan benderfynais astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth… Ail ddiwrnod yr Ysgol Ddeuddydd oedd hi, ym mis Medi 2009. Roeddwn, erbyn hynny, yn 17 oed ac wedi hen ddatgan mai Lerpwl oedd y lle i mi: dinas fawr, digon o siopau, bywyd cymdeithasol gwych – roedd popeth yno! Wel, bron iawn. Yn amlwg, doedd dim cyfle i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Lerpwl, a dyna oedd sail fy mhenderfyniad i ymweld ag Aberystwyth.

O fewn munudau roedd Glannau Mersi yn angof, wrth i mi glywed am y modiwlau amrywiol yr oedd gan Adran y Gymraeg i’w cynnig. Dysgais hefyd fod modd i mi astudio Cymraeg a Saesneg ar y cyd, rhywbeth a oedd o ddiddordeb mawr i mi gan fy mod eisoes wedi ystyried gyrfa fel cyfieithydd. Un o’r prif fodiwlau a lwyddodd i’m denu i’r Adran oedd ‘Y Gymraeg yn y Gweithle’, modiwl sy’n astudio’r defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru gyfoes. Ychydig a wyddwn bryd hynny pa mor bwysig a fyddai’r modiwl hwn i mi!

Cefais dair blynedd wych yn astudio yn Aberystwyth, ac roedd naws agos-atoch Adran y Gymraeg yn golygu fod digon ogymorth ar gael petawn ei angen. Roedd maint yr Adran yn helpu i feithrin cyfeillgarwch unigryw rhwng y staff a’r myfyrwyr, ac roedd hynny’n gaffaeliad mawr. Un o’r modiwlau rwy’n cofio ei fwynhau fwyaf oedd ‘Dafydd ap Gwilym a’i Gyfoeswyr’. Roeddwn eisoes wedi cael blas ar waith Dafydd ap Gwilym yn y chweched dosbarth, felly difyr oedd treulio’r tymor yn astudio ei waith yn fwy manwl. Cefais hefyd gyfle i ysgrifennu Traethawd Estynedig ar lenyddiaeth ychwareli: pwnc addas iawn ar gyfer merch o Ddyffryn Nantlle!

Rwyf wedi sôn eisoes am fodiwl ‘Y Gymraeg yn y Gweithle’. Dilynais y modiwl hwn yn ystod fy mlwyddyn olaf ac roedd yn ofynnol fy mod yn treulio wyth diwrnod o brofiad gwaith ar leoliad. Treuliais fy nghyfnod gyda Prysg, cwmni cyfieithu yng Nghaerdydd, gan fwynhau’r profiad yn fawr. Roedd yn gyfle i weld y Gymraeg ar waith bob dydd, yn ogystal â dysgu rhagor am waith cyfieithwyr yng Nghymru. Yn ystod fy nghyfnod yno, cefais wybod bod ycwmni yn awyddus i recriwtio cyfieithwyr newydd, ac fe es amdani. Yn dilyn prawf a chyfweliad, roeddwn yn ddigon ffodus i gael fy mhenodi, ac rwyf bellach wedi bod yn Gyfieithydd dan Hyfforddiant gyda’r cwmni ers bron i chwe mis. Pwy fyddai’n meddwl y byddai un modiwl yn f’arwain at fy swydd ddelfrydol!

Mae gen i reswm i ddiolch i’r Adran, nid yn unig am fy helpu i gychwyn ar fy ngyrfa, ond am eu cymorth a’u cefnogaeth yn ystod fy nghyfnod yn y Brifysgol. Sori Lerpwl – Aber sy’n ennill bob tro!

Llun Ffion Parrington

Ffion Mair Parrington, BA Cymraeg a Saesneg (2013)