Dwy gadair i fyfyrwraig Adran y Gymraeg.

[This post congratulates third year student Megan Elenid Lewis on her literary successes at eisteddfodau held by the Young Farmers’ Association.]
Braint oedd cael bod yn bresennol yn seremoni gadeirio Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion 2 Tachwedd eleni, wrth i mi weld ffrind, Megan Elenid Lewis, yn sefyll uwchlaw gweddill y gynulleidfa ar ganiad y corn.
Yn ôl y beirniad, y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan, mae Megan yn ‘llenor o safon uchel iawn’ ac mae ei stori fer yn llawn ‘cyffyrddiadau cynnil’ am glirio hen aelwyd wedi marwolaeth yn y teulu. Yn ôl y sôn, mae cyfrinach yn cuddio ymysg hen bethau’r aelwyd. Dywed y beirniad fod Megan yn llenor sy’n astudio pobol, iaith a thafodiaith yn graff – ac mae’n sicr y byddai ei darlithwyr ar y modiwl ‘Ysgrifennu Creadigol’ yn cydsynio.

Bythefnos wedyn, 16 Tachwedd 2013, taith bell ar y ‘bws o’r bryniau’ ar hyd heolydd troellog yr A487 oedd o flaen Megan a’i theulu wedi iddi dderbyn yr alwad wrth CFfI Cymru yn dweud ei bod wedi ennill Cadair Eisteddfod Ynys Môn, 2013. Gyda’i theulu, ffrindiau a gweddill cefnogwyr Ceredigion yn dyst i’w llwyddiant, eisteddodd Megan yn hedd yr Eisteddfod.
Megan

Llongyfarchiadau gwresog iti Megan ar dy lwyddiant ysgubol. Rwyf i, fel sawl un arall, rwy’n siŵr, yn ysu am gael darllen y stori fer fuddugol. Pob lwc i’r dyfodol ac ymlaen at weddill y cadeiriau…

Gwenan Davies, Myfyrwraig Raddedig Dan Hyfforddiant Adran y Gymraeg a Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg, BA Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu (2013)

Ymgartrefu yn y Coleg Ger y Lli

[Dr Rhianedd Jewell blogs about settling in to her new job at Aberystwyth as Coleg Cymraeg Cenedlaethol Lecturer in Profesional Welsh.]
Ym mis Medi eleni dechreuais fy swydd newydd fel Darlithydd mewn Cymraeg Proffesiynol yn Adran y Gymraeg. Cefais fy ngeni a’m magu yn ardal Caerffili, ac ar wahân i ambell daith i’r dref gyda ffrindiau a’r teulu (bu fy nhad a’m tad-cu yn astudio yn Aber!), roedd Aberystwyth yn ddieithr iawn i mi. Y mae’r wythnosau diwethaf, felly, wedi bod yn antur i mi; cyfle i grwydro’r dref ac i fynd ar goll sawl gwaith yng nghoridorau cymhleth a grisiau troellog yr Hen Goleg.

Rwyf wedi darganfod sawl agwedd hyfryd ar fywyd yn Aber erbyn hyn…

Y cyntaf yw presenoldeb yr Eidal yng Ngorllewin Cymru. Treuliais naw mlynedd o’m bywyd yn astudio Eidaleg fel myfyrwraig yn Rhydychen, ac yn naturiol felly, rwyf yn dwli ar fwyd Eidalaidd. Pleser pur felly yw torri ar draws gwaith darllen neu ymchwil er mwyn cael cappuccino bach yn Agnelli’s ar Stryd y Bont.

Yr ail bleser yw’r promenâd, y rhodfa hirfaith sy’n rhannu machlud anhygoel ar noson glir, ac sy’n cynnig croeso cynnes wrth gerdded i’r gwaith ben bore. Mae’r gwyntoedd yn cryfhau wrth i fisoedd y gaeaf nesáu, gan herio f’ymbarél bach, ond mae’r ymarfer corff yn gwneud lles i mi! Ac mae adlewyrchiad y lloer a goleuadau’r prom ar lan y môr yn gysur wrth i’r nosweithiau gau yn gynt.

Y pleser olaf yw’r llyfrgelloedd. Caiff hanes, traddodiad, creadigrwydd a hunaniaeth Cymru eu diogelu yn llyfrgell y Brifysgol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a gwahoddir myfyrwyr, darlithwyr a darllenwyr o bob math i ddyfnhau eu gwybodaeth a’u dychymyg trwy ymddiddori yn y trysorau a gedwir ynddynt.

Yn wir, dyma leoliad ysbrydoledig i ddechrau antur newydd, ac er mor brysur yw gwaith y tymor, yr wyf yn mwynhau’r fraint o gyd-gerdded â’r myfyrwyr ar eu hanturiau nhw.

Rhianedd Jewell, Darlithydd mewn Cymraeg Proffesiynol

Llun Rhianedd

Profiad Gwaith

[In this post, Ffion Gwen Davies blogs about her work experience with Telesgob production company as part of her assessment for the undergraduate employability module ‘Y Gymraeg yn y Gweithle’ (Welsh in the Workplace).]
A minnau’n ferch fferm â diddordeb ym materion cefn gwlad ac hefyd yn gobeithio dilyn gyrfa ym myd y cyfryngau, ble gwell i dreulio’m cyfnod o brofiad gwaith ar gyfer y modiwl ‘Y Gymraeg yn y Gweithle’ na Chwmni Cynhyrchu Telesgop?
Dwi wedi bod yn ddigon ffodus yn y gorffennol i gael gweithio ar gynyrchiadau’r Sioe Frenhinol a’r Ffair Aeaf. Er nad oedd byd ymchwilio a golygu yn ddieithr i mi, braf oedd cael blas ar strwythur swyddfa wahanol a dod i adnabod llond swyddfa o gyd-weithwyr newydd. Er hyn, rhaid cyfaddef, braf oedd cael gweld ambell i wyneb cyfarwydd wrth gyrraedd, yn enwedig ar ôl y siwrne hunllefus trwy’r gwynt a’r glaw a thagfeydd traffig yr M4.
Gan fod Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc ar y gorwel, dyma oedd fy mhrif dasg yn ystod fy nghyfnod o brofiad gwaith: ymchwilio a pharatoi ar gyfer darllediad byw Telesgop o Bafiliwn Môn. Roedd pob math o dasgau gennyf, megis pori trwy’r cystadlaethau, pecynnu eitemau llwyfan a threfnu gwesteion ar gyfer y stiwdio. Yn ffodus iawn, mae mwy o oriau darlledu gan Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc eleni ac, er bod hynny’n golygu mwy o waith i mi, mae hi hefyd yn golygu mwy o oriau o ddiddanwch a boddhad i wylwyr S4C ar nos Sadwrn yr Eisteddfod.
Cynhyrchiad arall dwi wedi bod yn gweithio arno yn ystod fy nghyfnod yma ydy’r Ŵyl Gerdd Dant a gynhaliwyd ym Mhontrhydfendigaid 9 Tachwedd. A darnau gosod yr ŵyl eleni yn dal i atseinio yn fy mhen, mae’r holl becynnau bellach yn barod ar gyfer y darllediad.

Wrth gyrraedd diwedd fy nghyfnod yma yn Nhelesgop, rhaid i mi ganmol y cyfle a roddwyd i mi gan yr Adran Gymraeg i ddilyn modiwl o’r fath, sef modiwl a gynigia’r cyfle i chi gael profiad o fywyd go iawn ac i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a gweinyddu – a hynny oll trwy gyfrwng y Gymraeg!
A chofiwch wylio rhaglen y Ffermwyr Ifanc ar nos Sadwrn 16 Tachwedd. Mwynhewch!

Ffion Gwen Davies, Rhan II, Cymraeg, Drama ac Astudiaethau Theatr

Llun Ffion Gwen

Digon dwl i ‘sgrifennu nofel!

[Mad enough to write a novel! In this post MPhil student Miriam Jones recounts the time she enjoyed studying on the undergraduate ‘Creative Writing’ module for which she wrote a novel.]
Mae nifer o fy nghyd-fyfyrwyr yn dueddol o edrych arnaf yn hurt pan gyfaddefaf fy mod wedi ysgrifennu nofel.

‘Nofel?! Nofel gyfan?!’ yw’r ymateb arferol… ac mae hi’n fwy o sioc eto pan gytunaf fy mod i wedi ysgrifennu nofel gyfan a’i bod yn 50,000 o eiriau o hyd.

Efallai wir ei bod hi’n anarferol i fyfyrwraig o fy oedran i fynd ati i ysgrifennu nofel gyfan, yn enwedig gyda bywyd cymdeithasol bywiog Aberystwyth yn mynnu llawer o’m hamser i! Ond roedd ysgrifennu nofel wedi bod yn uchelgais bersonol i mi erioed. Hyd yn oed pan oeddwn yn ddim o beth, roeddwn am fod yn Awdur (gydag A Fawr Bwysig), tra bod y rhan fwyaf o’m ffrindiau yn breuddwydio am fod yn gantorion neu’n actorion byd-enwog, neu rywbeth felly. Er nad oeddwn eto wedi gwireddu fy uchelgais cyn cyrraedd y brifysgol, roedd hi’n dal i fod yng nghefn fy meddwl wrth benderfynu dilyn y modiwl Ysgrifennu Creadigol gyda’r Adran Gymraeg. Roedd yn gyfle i fynd ati o ddifrif i ysgrifennu nofel, gan wybod bod gennyf ddyddiad cyflwyno pendant a chymorth tiwtoriaid profiadol i gynnig cyngor i mi pe bai ei angen.
Ym mlwyddyn gyntaf y cwrs dwy flynedd, cefais gyfle i arbrofi â ffurfiau amrywiol megis llên meicro, straeon byrion, sgriptiau a barddoniaeth – gan ddarganfod nad bardd naturiol mohonof! Yn ogystal â’r nofel, ysgrifennais sawl stori fer yn ystod y cyfnod, a gweld llawer un ohonynt yn cael eu cyhoeddi mewn cylchgronau megis Tu Chwith a chylchgrawn yr Adran Gymraeg, Y Ddraig. Heb os, pe na bai am y profiad hwn yn dilyn y modiwl a chael y cyfle i fynd ati’n gyson i ymarfer ysgrifennu, ni fyddwn wedi magu’r hyder hynny i fynd ati i gyhoeddi fy ngwaith o gwbl, heb sôn am ystyried mynd ati ar fy liwt fy hun i ysgrifennu’r nofel.

Ysgrifennais y nofel gyfan mewn naw mis, wedi cyfnod hir yn ystyried ac ail-ystyried yr hyn roeddwn am ei ddweud a dod i adnabod fy nghymeriadau cyn mynd ati i ysgrifennu amdanynt. Yn anarferol braidd, y peth cyntaf a ysgrifennais oedd y bennod olaf, gan weithio tuag at y diweddglo hwnnw, a’i addasu weithiau, pan oedd trywydd annisgwyl yn digwydd ym mhlot y nofel. Mae gan bawb eu ffordd wahanol o wneud pethau, a darganfyddais mai dyna’r ffordd oedd yn gweithio orau i mi. Wrth ysgrifennu, rhaid cyfaddef i mi dreulio cryn dipyn o amser yn crio a rhegi a difaru fy mod wedi bod yn ddigon dwl i wneud y fath beth – gan fy mod hefyd yn gorfod ysgrifennu traethodau di-ri ar gyfer modiwlau eraill hefyd! – ond wedi ei gorffen, roeddwn yn hynod falch o’r hyn roeddwn wedi ei gyflawni. Nid wyf eto wedi gwneud trefniadau pendant ynglŷn â’i chyhoeddi eto, ond gobeithiaf wneud yn y dyfodol, felly wiw i mi siarad gormod am ei chynnwys… ond pan fydd gennyf unrhyw newyddion, chi fydd y cyntaf i wybod!

Miriam Elin Jones

Llun Miriam