Wythnos y Glas 2013 Freshers Week

[This post advertises the events organised for Freshers Week 2013]
Wrth i Wythnos y Glas agosáu, mae staff Adran y Gymraeg yn edrych ymlaen at groesawu myfyrwyr newydd. Dyma ein prif ddigwyddiadau…

As Freshers’ Week approaches staff of the Department of Welsh are looking forward to welcoming new students. Here are our main events…

22 Medi/September 2013
Derbyniad i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg / Reception for Welsh medium students
(14:30 Neuadd Gwleidyddiaeth Ryngwladol / International Politics Main Hall)

24 Medi/September 2013
Cofrestru Rhan I / Part I Registration
25 Medi/September 2013
Cofrestru Rhan II (y sawl sydd heb rag-gofrestru) / Part II Registration (for those who have not completed provisional registration)

Sesiwn i gyngori Uwchraddedigion / Session to advise Postgraduates
(14:00–16:00 Ystafell Seddon Room, Hen Goleg / Old College)

26 Medi/September 2013
Noson i groesawu uwchraddedigion / An evening to welcome Postgraduates
(19:00 Ystafell Seddon Room, Hen Goleg / Old College)

30 Medi/September 2013
Cwis a noson i groesawu myfyrwyr newydd / Quiz and evening to welcome new students
(19:30 Gwesty’r Richmond / The Richmond Hotel)

Eisteddfota 2013: lansio cymdeithas newydd i fyfyrwyr Astudiaethau Celtaidd

[PhD student James McCann relates the launch of a new student association at the Eisteddfod: The Association of Celtic Students of Ireland and Britain. Following the success of their inaugural conference at Edinburgh University in 2013, the next conference in March 2014 will be hosted by Aberystwyth University.]
Ar an 8ú lá de Mhí Lúnasa láinseáilíodh Cumann Mhac Léann Cheiltis na hÉireann agus na Breataine san Eisteddfod Náisiúnta. Is í aidhm an Chumainn tacaíocht a thabhairt do na teangacha Ceilteacha uile, agus do mhic léinn Ceiltise, agus spéis sa Léann Ceilteach a spreagadh in ollscoileanna na dtíortha Ceilteacha. D’éirigh go maith leis an láinseáil, agus tháinig baill ó chéin is ó chóngar. Labhraíodh Breatnais, agus Gaeilge na hÉireann, na hAlba agus Mhanainn i measc na mball, agus tugadh óráidí i mBreatnais agus i nGaeilge na hAlban. Ba bhreá an rud é na teangacha Ceilteacha eile a chloisteáil i gcroílár dhaingean na Breatnaise! Coinneáilfear dara chomhdháil an Chumainn in Ollscoil Aberystwyth i Mí na Márta, agus foillseofar imeachtaí chomhdháil Dhún Éidinn roimh an Nollaig.

Ar yr 8fed o Awst lansiwyd Cymdeithas Myfyrwyr Astudiaethau Celtaidd Iwerddon a Phrydain yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Nod y Gymdeithas yw cefnogi’r ieithoedd Celtaidd a myfyrwyr Astudiaethau Celtaidd, ac ysbrydoli diddordeb mewn Astudiaethau Celtaidd ym mhrifysgolion y gwledydd Celtaidd. Bu’r lansiad yn llwyddiant ysgubol, a daeth aelodau o agos ac o bell. Siaradwyd Cymraeg, Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban a Mannaweg gan yr aelodau, ac areithwyd yn Gymraeg a Gaeleg yr Alban. Braf oedd clywed yr ieithoedd Celtaidd eraill yng nghanol cartrefgaer y Gymraeg! Cynhelir ail gynhadledd y Gymdeithas ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Mawrth, a chyhoeddir trafodion cynhadledd Gaeredin cyn Nadolig.

James McCann, myfyriwr PhD

Cymdeithas Myfyrwyr Astudiaethau Celtaidd Iwerddon a Phrydain

Lansiad Cymdeithas Astudiaethau Celtaidd

Eisteddfota 2013: Talwrn Aberystwyth v. Bangor!

Mae’n draddodiad bellach cynnal talwrn bob blwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor, a da oedd gweld bod y traddodiad hwnnw yn parhau eto eleni yn Eisteddfod Dinbych a’r Fro. Cynhaliwyd y talwrn ym mhabell Bangor a Meuryn y dydd oedd y Parchedig John Gwilym Jones a arweiniodd y talwrn yn ei ffordd ddifyr ac ysgafn ei hun.

Yn anffodus i Aberystwyth, Bangor oedd yn fuddugol ond cafwyd cerddi o safon uchel iawn gan y ddau dîm. Dim ond hanner marc oedd yn gwahanu’r ddau ar ddiwedd yr ornest, felly rwy’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni, Aberystwyth, wedi rhoi ‘cwrsad go dwym’ i Fangor!

Roedd pedwar aelod ym mhob tîm a oedd yn gymysgedd o ddarlithwyr, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr. Aelodau tîm Bangor o dan gapteiniaeth Peredur Lynch oedd Elis Dafydd, Llion Jones a Nia Powell, ac o dan gapteiniaeth Huw Meirion Edwards, fy nghyd-aelodau yn nhîm Aberystwyth oedd Gruffudd Antur ac Iwan Rhys. Yn y blog hwn, rwyf am roi enghreifftiau o’r cerddi a luniwyd gan ein tîm ni, gan geisio rhoi blas i chi o’r ornest a gafwyd ar y dydd.

Y gystadleuaeth gyntaf oedd llunio englyn ar ffurf stori fer yn cynnwys y llinell ‘I’w bedsit y daeth Betsan’. Yn ei englyn, soniai Huw Meirion Edwards am unigrwydd person mewn galar ac arafwch y dyddiau. Dyma ei ymdrech:

I’w bedsit y daeth Betsan – dan fygu,
dan fagu fel baban
ei galar, wrth i daran
hollti’r dydd hir ar wahân.

Yr ail gystadleuaeth oedd llunio cerdd rydd ar y testun ‘Tywyswyr cŵn’ a lluniodd Iwan Rhys gerdd am gŵn y Frenhines, cŵn a oedd yn fonheddig ac yn wahanol iawn i gŵn eraill:

Mae’n rhaid iddynt wisgo’n drwsiadus
Mewn siwtiau â chynffonnau hir,
A cherdded â’u trwynau’n yr awyr
Gan siarad yn barchus a chlir.

Englyn ar y testun ‘Tywod’ oedd y gystadleuaeth nesaf a lluniodd Gruffudd Antur englyn yn sôn am freuder cariad:

Naddwn ddau enw’n fan hyn – a rhythwn
ar draethell ddiderfyn,
ond dwi’n gweld y tonnau gwyn
yn dileu dy ôl wedyn.

Testun y cywydd oedd ‘Melinau gwynt’, ac yn ei gywydd mae Huw Meirion, a’i dafod yn ei foch, yn moli’r melinau gwynt gan eu cysylltu â’r tir ac amaethyddiaeth. Dyma ddetholiad o’r cywydd:

Tyrbeini sy’n troi beunydd,
Erydr rhad yr awyr rydd.
Yn fwyn wâr o Fôn i Went
Ni fu eiliad na falent
Awel mewn llwyr dawelwch
A’i llyfnu’n syth â llafn swch.

Cadwn, myn dyn, i’w codi,
Ond nid ar fy ngwndwn i.

‘Aduniad’ oedd testun y delyneg, ac yn fy ymdrech i soniais am oen wedi colli ei fam adeg tymor yr wyna ac mi wnes i gymharu’r profiad gyda dyhead pobl i weld eu mam eto. Dyma’r pennill clo:

Yng nghae ein heinioes ninnau
mae hiraeth ym mhob cam
ac ynom fref yr oenig
i ail-weld wyneb mam.

Y gystadleuaeth olaf, ond heb amheuaeth y fwyaf poblogaidd, oedd cystadleuaeth y Limrig cywaith, a chafwyd pedair llinell i’w cwblhau. Dyma’r ymdrechion:

Daeth parti cerdd dant o Rangoon
I Ddinbych mewn basged balŵn,
Mi wnaethon nhw’u gora
I ganu’n iaith Gwalia
Ond Leah ni chlywai ond sŵn.
Huw Meirion Edwards

Roedd gwrach yn nhîm talwrn Wcráin
A luniai englynion mor gain,
Ond nid syndod ei doniau
Am ei bod hi i minnau
Yn hen hen hen hen hen hen nain.
Iwan Rhys

Mewn parti ail iaith o Hong-Kong
Fe feddwodd Ting-Tong ar y llong
Ar win a Bacardi,
A thra’n snogio rhyw ledi
Fe gwmpodd e bant… So long!
Endaf Griffiths

Mewn awdl gan fwtsiar Shanghai
doedd dim ond tair llinell, medd rhai.
Roedd hynny’n hen ddigon
i guro’r ymdrechion
gan Jim Castellnewy’ a’i nai.
Gruffudd Antur

Felly, dyma i chi flas o’r talwrn a gafwyd yn Ninbych eleni. Er bod Aberystwyth wedi colli, gwelir oddi wrth safon y cerddi ei bod hi’n ornest twym iawn. Y flwyddyn nesaf, mi fydd yr Eisteddfod yn Sir Gâr a gobeithio y bydd tro yn y gwynt er mwyn i mi gael adrodd am fuddugoliaeth Prifysgol Aberystwyth!

Endaf Griffiths, Cymraeg Sengl, Rhan II

Talwrn Aberystwyth v Bangor Eisteddfod 2013

Talwrn Tim Aberystwyth
Talwrn Tim Bangor

Eisteddfota 2013: lansio Lygad yn Llygad (2013) gan Huw Meirion Edwards

[Dr Huw Meirion Edwards launched his first volume of collected poems at the Eisteddfod.]
Roedd bwrlwm cyson ar stondin Prifysgol Aberystwyth yn ystod yr Eisteddfod yn Ninbych eleni: roedd rhai’n mynychu’r gweithgareddau amrywiol a drefnwyd gan y Brifysgol ac eraill yn taro heibio am baned a chlonc. Er gwaethaf y traffig eisteddfodol, cyrhaeddais stondin y Brifysgol am hanner dydd, 7 Awst 2013, mewn pryd ar gyfer un o uchafbwyntiau’r wythnos, sef lansio Lygad yn Llygad gan Huw Meirion Edwards…

Hon yw cyfrol farddonol gyntaf Huw Meirion ac roedd y lansiad yn gyfle i’w glywed yn sôn am ei gerddi, am glawr trawiadol y gyfrol, ac am y pethau amrywiol ac amlochrog sy’n ei ysbrydoli. Darllenodd ambell gerdd hefyd er mwyn rhoi blas i bawb ar themâu a chyweiriau’r gyfrol. Wrth ei glywed yn darllen y cerddi ar lafar, daeth i’m meddwl mai anaml iawn, mewn gwirionedd, y byddaf yn ‘clywed’ barddoniaeth. Mae cyflwyno elfen berfformiadol i farddoniaeth yn dod â cherddi’n fwy byw i gynulleidfa wrth iddi glywed rhythmau cerdd a phwylais bardd ar eiriau neu ymadroddion penodol. Clywsom gerddi cyfarch gan Dafydd Pritchard ac Iwan Bryn James sy’n aelodau gyda Huw Meirion o dîm Talwrn y Cŵps, ac i gloi’r lansiad cawsom gyfle i wrando ar Catrin Herbert, un o fyfyrwyr Huw Meirion ar y modiwl Ysgrifennu Creadigol, yn perfformio rhai o’i chaneuon … neu’n hytrach ei cherddi?

Fel y gellid disgwyl gan arbenigwr ar farddoniaeth Dafydd ap Gwilym sy’n dysgu modiwl MA ar y bardd, mae cerddi Huw Meirion wedi eu gwreiddio yn y traddodiad barddol Cymraeg, ond eto i gyd yn arddangos eofndra parchus tuag at y traddodiad hwnnw. Un o’r cerddi a ddarllenodd oedd ‘I ofyn llwyth o dail…’, cerdd sy’n ymateb yn eironig i draddodiad y canu gofyn ac yn dyst i’r ‘afiaith perig’ y soniodd y Prifardd Dafydd Pritchard amdano yn ei gerdd yntau i Huw Meirion:

Mae i eiriau Huw Meirion
olud a maeth hen wlad Môn,
awen helaeth ei thraethau’n
wyn eu gwedd a’r Fenai’n gwau
trwy drobyllau’i geiriau i gyd
yn afiaith perig hefyd.
(Dafydd Prichard, ‘Ar achlysur lawnsio Lygad yn Llygad’)*

Cerddi achlysurol yw amryw o gerddi’r gyfrol ac maent yn agor cil y drws ar wedd gymdeithasol barddoniaeth; yn achos Huw Meirion, ei ymwneud â thîm Talwrn y Cŵps a thîm ymryson Ceredigion. Mae cerdd Iwan Bryn yn dweud y cyfan a hynny drwy efelychu’n gampus ormodiaith yr hen ganu:

Wyt ŵr mawr, wyt eryr Môn,
Ein harwr wyt, Huw Meirion

Wyt athrylith, ddarlithydd,
Wyt wron o safon sydd
Yn wych am ein harwain ni,
Yn hwyliog ysbrydoli.

‘Lygad yn Llygad’ mewn llaw,
Na heglwch o’ma’n waglaw.
(Iwan Bryn James, ‘Cywydd Mawl i Huw Meirion’)*

Dilynwch #lygadynllygad ar gyfrif Trydar yr Adran (@CymraegAber) a chofiwch drydar eich hoff gerddi, eich hoff gwpledi neu eich hoff drawiadau…

Diolch i bawb a gyfrannodd at y lansiad ac i bawb a ddaeth yno i gefnogi, ac yn arbennig i Marred Glynn a Geraint Lloyd Owen (Gwasg y Bwthyn).

*Diolch i Dafydd Prichard ac Iwan Bryn am ganiatáu i mi ddyfynnu o’u cerddi.

Cathryn Charnell-White

Huw Lydag yn Llygad 2

Catrin Herbert Lygad yn Llygad