Golygydd gwadd ‘Post Cyntaf’, Radio Cymru, 28 Awst 2013

[Head of Department, Cathryn Charnell-White, blogs about her experience as guest editor on Radio Cymru’s morning news programme, ‘Post Cyntaf’, in which she discussed butterflies and knitting – and their literary connections.]
Un o’m dyletswyddau mwyaf pleserus yn fy swydd newydd fel Pennaeth Adran oedd bod yn olygydd gwadd ar y ‘Post Cyntaf’. Gofynnwyd i mi ddewis dau bwnc ymlaen llaw er mwyn i newyddiadurwyr Radio Cymru lunio pecynnau i’w ddarlledu ar y dydd. Dewisais un pwnc difrifol (hynt a helynt ieir fach yr haf) ac un ysgafnach ei naws (y grefft o wau).

Ieir bach yr haf
Dewisais y pwnc hwn oherwydd bod llai o ieir fach yr haf i’w gweld yn yr ardd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’n debyg mai’r tywydd sy’n cyfrif am hyn: mae cyfres o hafau gwlyb a diflas wedi rhwystro’r creaduriaid rhag paru a dodwy wyau.

Gellir cefnogi ieir bach yr haf trwy blannu planhigion fel coed mêl (buddleia) sy’n darparu digon o neithdar ar eu cyfer, ac hefyd trwy neilltuo ‘man gwyllt’ yn yr ardd er mwyn sicrhau bod cynefinoedd addas ar gael ar gyfer eu cylch bywyd llawn. Dyma esgus da i beidio â thorri’r lawnt ac i roi rhwydd hynt i’r danadl poethion…
• Gweler cynllun Garddio Bywyd Gwyllt Eryri
• Gellir chwilio am enwau cynhenid Gymraeg am ieir bach yr haf ar wefan naturiaethol llênnatur.com, heb sôn am ymgolli yn yr oriel fendigedig o luniau…

Mae gennyf ddiddordeb byw ym myd natur ac ers sawl blwyddyn bellach rwy’n sianelu’r diddordeb hwnnw i’m gwaith ymchwil ar lenyddiaeth y tirlun a’r hinsawdd 1500–1800. Rwy wedi mwynhau edrych ar destunau llenyddol o berspectif gwahanol trwy gydweithio gydag aelodau o staff Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear (SDGD/IGES) ar hinsoddeg hanesyddol (S. historical climatology) yng Nghymru. Bûm hefyd ar bwyllgor ymgynghorol ‘Eira Ddoe: cofio tywydd eithafol’ (LlGC), prosiect sy’n annog y cyhoedd i rannu eu hatgofion o dywydd eithafol yng Nghymru. Rwy wrthi’n paratoi Trysorfa’r Tywydd (2015) i Barddas, sef detholiad o gerddi a phytiau llenyddol am yr hinsawdd ‘ar tywydd yng Nghymru.

Gan fod llên natur a llên y tywydd yn enghreifftiau da iawn o’r modd y mae pwnc hanesyddol yn berthnasol iawn i’r presennol, rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu modiwl ecofeirniadol ar lenyddiaeth y tirlun a’r amgylchedd yma yn Adran y Gymraeg. Yn y cyfamser, os ydych yn awyddus i ddarllen ymhellach dyma ambell beth defnyddiol:
• Timothy Clark, The Cambridge Guide to Literature and the Environment (Cambridge, 2011)
• Gwefan ‘The Association for the study of Literature and Environment’ (ASLE-UKI)
• Heather Williams, ‘Ecofeirniadaeth i’r Celtiaid’, Llenyddiaeth Mewn Theori, 3 (2008) [2009], 1–28.
• Cathryn A. Charnell-White, ‘Cofio’r tywydd yng Nghymru: casgliad Thomas Evans, Hendreforfudd o englynion meteorolegol’, Llên Cymru, 34 (2011), 62–87.
• Cathryn A. Charnell-White, ‘Eira mân, eira mawr’, Taliesin, 142 (Gwanwyn 2011), 19–27.

Gwau
Mae gwau yn ffordd dda o ymlacio ar ôl diwrnod caled o waith! Dangosodd pecyn Radio Cymru bod yr hen grefft hon yn mwynhau adfywiad ar hyn o bryd, a bod dynion, yn ogystal â menywod, yn ymateb i’r her…

Ceir patrwm ar gyfer sanau a ysbrydolwyd gan y testun Saesneg eiconig Beowulf. Tybed pa glasuron llenyddol Cymraeg a Chymreig a fyddai’n addas i fod ar y gweill, fel petai?

Fe luniodd Dafydd ap Gwilym gerdd yn gyfnewid am sanau a wnaed gan Elen gwraig Robin Nordd o Aberystwyth. Gweler Cerdd 120, llau. 13–28 ar wefan dafyddapgwilym.net. (Diolch i Dr Barry Lewis am y cyfeiriad hwn)

Cofiwch drydar eich cynigion trwy ddefnyddio #gwaullenyddol @CymraegAber.

Cathryn A. Charnell-White